Y Cam Nesa!
Various
Gallwch weld ein cyflwyniad fideo effeithiol ar y we yn www.scriptureunion.org.uk/itsyourmove/cymraeg.
 
Pan wyt ti’n 11 neu’n 12, mae symud ysgol yn her fawr. Rwyt ti’n edrych ymlaen achos bod diwrnod symud i’r ysgol fawr yn agosáu. Byddi’n cael gwisg ysgol newydd, a byddi’n dysgu llawer o bethau newydd. Ond rwyt yn pryderu na fyddi, efallai, yn gwneud ffrindiau newydd. Fydd yr athrawon newydd
yn dy hoffi? Fydd y plant hŷn yn dy gam-drin? Ond diolch i’r llyfr Y Cam Nesa! (It’s Your Move!), gan Scripture Union, mae dros 800,000 o blant wedi cael cymorth i symud i ysgol uwchradd.

Mae Y Cam Nesa! yn llawn cyngor doeth, straeon bywyd go iawn, a llawer o ddeunydd diddorol fydd yn rhoi hyder i blant wrth iddynt symud i’r ysgol newydd. Mae plant wrth eu bodd â’r llyfr am fod ynddo gymorth gwerthfawr a digon o hwyl. Mae athrawon wrth eu bodd â’r llyfr am ei fod yn rhoi i’w disgyblion olwg cyffredinol clir ar y cyfnod hwn yn eu bywyd. A byddwch chithau wrth eich bodd â’r llyfr gan y byddwch yn gwybod eich bod yn helpu cannoedd o blant yn eich cymuned leol.

Welsh language edition of It's Your Move.

ISBN: 9781844272143
Catalogue code: N/A
Publisher: Scripture Union
Format: B format pb 64 pages

£2.99 Currently out of stock